Mae Wyau Ochr Cefn Isa yn cynhyrchu wyau wedi eu dodwy gan ieir yn Sir Conwy. Rydym bob amser yn barod i gyflenwi cwsmeriad gyda phwyslais ar gynnig gwasanaeth rhagorol a phersonol.
Busnes teuluol yw Wyau Ochr Cefn Isa wedi ei leoli ar fferm ddefaid draddodiadol ar ystad Tir Ifan o eiddo’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Mae’r holl waith gofalu am yr ieir yn bersonol er mwyn sicrhau safon uchel o ofal bob amser ac o ganlyniad mae’r ieir yn gyfforddus a hapus ac yn cynhyrchu wyau o'r safon uchaf.
Mae porthiant o safon uchel yn hollbwysig ar gyfer wyau blasus a dyna pam ein bod yn darparu'r gorau i'n ieir. Mae gan ein Ieir y rhyddid i grwydro ar draws tir y fferm, gan greu eu cynefin naturiol eu hunain ar dir sy'n llawn llystyfiant gyda choed, gwrychoedd a waliau cerrig yn darparu lloches naturiol i'r ieir.
Cesglir yr wyau yn ddyddiol ac yna eu graddio a’i didoli yn ystafell bacio’r fferm cyn eu dosbarthu i gwsmeriaid.
Mae’r Ieir a’r dull cynhyrchu wedi'u harchwilio'n llawn ac wedi eu cymeradwyo gan Freedom Food yr R.S.P.C.A. ac Adran Iechyd Anifeiliaid y Llywodraeth ac Iechyd yr Amgylchedd sy'n ymweld â'r fferm i gynnal a chreu perthynas waith dda.
Yn 2018 fe wnaethom ennill gwobr glodfawr ‘Cynnyrch Fferm Gorau’ yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol sy'n cael ei rhoi i'r cynhyrchwyr bwyd o safon uchaf. Roedd y panel beirniadu yn edrych ar bob agwedd ar y cynhyrchu, yr amgylchedd, hwsmonaeth ac iechyd yr anifeiliaid. Cafodd yr wyau eu harchwilio yn fanwl ac yna eu coginio au blasu.
Dyma rai o sylwadu’r panel beirniadu ar ein wyau buddugol.
“Plisgyn glân, llyfn gyda melynwy cryf, hufennog a ffres”
"Ar ôl potsio'r wyau roedd ganddynt liw da gyda melynwy melyngoch heulog hyfryd."